Gower Walking Festival

Annual Celebration of Gower

Mae Gŵyl Gerdded Gŵyr yn dychwelyd, wedi’i hadnewyddu ac yn barod i ddechrau!

Yn yr ardal fach hon yn ne-orllewin Cymru, sy’n mesur ond 19 milltir o hyd ac yn cwmpasu ond 70 milltir sgwâr, mae gan Gŵyr amrywiaeth helaeth o dirwedd, fflora, ffawna a threftadaeth ddiwylliannol hefyd! Mae’r maint a’r tir yn ei wneud yr un o’r mannau mwyaf hygyrch i gerdded i bawb, ac mae ein gŵyl yn cynnig cyfle i bawb roi cynnig ar rywbeth newydd, ailymweld â’i milltir sgwâr, neu yn syml mynd am dro ar hyd ymyl y dŵr.

Mae teithiau cerdded ar gael ar gestyll, eglwysi, diwydiant. Teithiau cerdded ar gyfer olwynion, cŵn, beirdd a ffotograffwyr. Mae gennym deithiau rhwydd ar lan y Mwmbwls, teithiau cymedrol i Bwll Du a theithiau cerdded egnïol i gwmpasu pedair copa Gŵyr. Ond rydym hefyd wedi cydweithio gydag arbenigwyr i ddarparu tai chi, byrddio mynydd, ‘parkour’ a chlogwyna.

Ni fyddai’r ŵyl yn digwydd heb y tîm gwych o wirfoddolwyr, mae llawer yn weithwyr proffesiynol sydd wedi rhoi eu hamser i ni. Rydym yn ddiolchgar i’n holl noddwyr.

Mae llefydd yn gyfyngedig ar y rhan fwyaf o deithiau a gweithgareddau, felly archebwch yn gynnar i osgoi cael eich siomi. Gofynnwn i chi ddarllen a nodi ein hamodau archebu. Rydym am i hwn fod eich ymweliad gorau a mwyaf diogel i’r Gŵyr.

Ein bwriad yw bod yn gynaliadwy ar gyfer y dyfodol, yn amrywiol i bawb, ac yn ymwybodol o’n hamgylchedd hardd.

Felly, tynnwch eich esgidiau cerdded arno ac archebwch eich taith gerdded!

Gwyl Gerdded Gwyr

CYMDEITHAS GŴYL CERDDED GWYR
Sefydliad di-elw


Our sponsors include:

sponsors