DYDD SADWRN 2 – DYDD SUL 10 MEDI 2022
Mae Gŵyl Gerdded Gŵyr yn dychwelyd yn 2023, o ddydd Sadwrn 2 tan ddydd Sul 10 Medi, gyda naw diwrnod o dri deg tri o deithiau cerdded godidog!
Wrth galon yr ŵyl eleni rydym yn dathlu dengmlwyddiant Llwybr Arfordir Cymru (LlAC). Mae ein penwythnos cyntaf yn cynnig cyfle i gerdded ar hyd rhan llawn Gŵyr o’r LlAC, o Benclawdd i’r Mwmbwls (dros ddeugain milltir), mewn dau ddiwrnod. Dros y naw diwrnod, bydd mwy na hanner ein teithiau cerdded ar hyd llwybr yr arfordir.
Mae Llwybr Arfordir Cymru yn 870 milltir o hyd, yn cynnwys cant o draethau ac un ar bymtheg o gestyll, a chysylltiadau o’r naill ben a’r llall â Chlawdd Offa, gan alluogi cerddwyr i fynd o amgylch perimedr cyfan Gymru. Dysgwch fwy ar Lwybr Arfordir Cymru
Cydnabyddir bod cerdded nid yn unig o fudd i’n hiechyd corfforol, ond hefyd i’n hiechyd meddwl. Mae cerdded yn rhoi amser i chi feddwl, mwynhau byd natur, ac archwilio tirweddau newydd. Mae gennym dîm gwych o arweinwyr cerdded gwirfoddol yn barod i rannu eu gwybodaeth am ein tirweddau arbennig yma ym Mhenrhyn Gŵyr a’r cyffiniau gyda chi.
Cyn archebu, darllenwch y dudalen Sut i Archebu, sy’n cynnwys ein T&Aau pwysig. Mae rhai o’n teithiau cerdded yn gyfeillgar i gŵn, ac mae’r amrywiaeth o deithiau cerdded sydd ar gael yn sicrhau bod rhywbeth at ddant pawb, o’r rhai sy’n ffafrio mynd am dro hamddenol i’r cerddwr pellter hir difrifol.
Gobeithiwn y byddwch yn mwynhau’r rhaglen hon o deithiau cerdded sy’n archwilio Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol gyntaf y DU.
Amser i wisgo’ch esgidiau!
Pwyllgor Sefydliad Gwyl Cerdded Gwyr
P.S Ar ôl wythnos Gŵyl Gerdded Gŵyr, beth am gadw’ch esgidiau ar gyfer Gŵyl Llwybr Pererindod Gŵyr 2023 23-24 Medi.