Gŵyl Gerdded Gŵyr

Annual Celebration of Gower

Sut i archebu lle ar y daith cerdded

Ewch i’r dudalen Teithiau Cerdded, dewiswch eich taith gerdded a chliciwch ar y botwm Archebu Tocyn sy’n mynd â chi i’n system archebu Ticketsource lle gallwch dalu am eich taith ar-lein. Gallwch chi archebu nifer o deithiau cerdded mewn un fasged eleni.

Mae rhai teithiau cerdded neu weithgareddau arbenigol yn costio mwy fel y nodir yn nisgrifiad y daith. Sylwer na ellir ad-dalu’r ffi hon.

Gallwch archebu’ch teithiau cerdded:

  1. Ar-lein drwy’r wefan hon gan ddefnyddio gwefan Ticketsource.
  2. Dros y ffôn drwy rif pwrpasol Ticketsource 0333 666 3366.

Noder bod llefydd yn gyfyngedig ar bob taith, a dangosir argaeledd ar dudalennau Ticketsource.

Am unrhyw ymholiadau, anfonwch e-bost at neu ffoniwch 07340 672963.


Beth sydd angen i chi ei wybod

Mae pawb sy’n cymryd rhan yng Ngŵyl Gerdded Gŵyr yn gwneud hynny ar eu risg eu hunain ac fe’u cynghorir i gymryd eu hyswiriant personol eu hunain. Nid yw GWFA yn derbyn cyfrifoldeb am ddiogelwch cerddwyr neu eiddo personol wrth gymryd rhan yn yr Ŵyl Gerdded.

Mae cost y daith neu’r digwyddiad yn talu am ein costau gweinyddol, yswiriant ar gyfer y digwyddiadau a’r ffi archebu Ticketsource. Nid oes modd derbyn ad-daliad oni bai ein bod yn cael ein gorfodi i ganslo digwyddiad, ac os felly, rhoddir ad-daliad llawn i bob cyfrannog o’r digwyddiad hwnnw. Bydd unrhyw elw a wneir yn mynd tuag at gostau’r ŵyl gerdded y flwyddyn ganlynol.

Dangosir pwyntiau cyfarfod y daith cerdded gydag arwydd DECHRAU ar dudalen we pob taith cerdded. Mae cyfeirnod grid ar dudalen we hefyd.

Mae’r rhan fwyaf o deithiau cerdded yn gylchol (yn dychwelyd i’r man cychwyn).

Mae pob pellter a hyd y teithiau cerdded yn fras.

Bydd teithiau cerdded yn cychwyn yn brydlon ar yr amser dechrau. MAE’N BWYSIG EICH BOD YN CYRRAEDD Y CYCHWYN O LEIAF 15 MUNUD CYN I’R DAITH GERDDED GYCHWYN I GANIATÁU AMSER I GOFRESTRU.

Gwiriwch amserau bysiau oherwydd efallai eu bod wedi newid ers cyhoeddi’r teithiau cerdded. Rydym wedi gweithio gyda thrafnidiaeth gyhoeddus leol i gydlynu amseroedd cychwyn gydag amseroedd cyrraedd bysiau.

Dylai perchnogion ceir fod yn ofalus o drigolion a busnesau lleol wrth barcio ym Mhenrhyn Gŵyr. Os gwelwch yn dda, parciwch yn synhwyrol, gan ystyried preswylwyr a busnesau gerllaw a chadwch eich car heb unrhyw eitemau gwerthfawr yn dangos.

Bydd angen i bob cerddwr ddarparu rhif ffôn cyswllt brys i’w ysgrifennu ar fand arddwrn a ddarperir ar ddechrau pob taith.

Gwisgwch esgidiau a dillad addas a byddwch yn barod am dywydd anrhagweladwy. Gallai person heb wisg ddigonol effeithio ar ddiogelwch a mwynhad y grŵp cyfan, felly rydym yn cadw’r hawl i beidio â mynd â rhywun sydd heb offer priodol. Rydym yn argymell eich bod yn cario diod (dŵr os yn bosibl) ac eli amddiffyn rhag yr haul. Cofiwch ddod ag unrhyw feddyginiaeth sydd ei hangen arnoch wrth gerdded.

Lle mae cyfle i fwynhau picnic, dewch â bwyd eich hun, ac unrhyw fyrbrydau os ydych chi’n teimlo bod eu hangen arnoch ar y ffordd.

Croesewir cŵn ar deithiau cerdded a nodir, a rhaid iddynt fod ar dennyn byr dan reolaeth, rhaid i berchnogion gario bagiau baw ci a’u defnyddio pan fo angen. Rydym yn cerdded ger anifeiliaid fferm a bywyd gwyllt. Croesewir cŵn cymorth ar bob taith ar y tir.

Gwirfoddolwyr yw’r arweinwyr cerdded a’r marcwyr cefn, ond mae llawer wedi cael hyfforddiant. Bydd un pecyn cymorth cyntaf ar gael ar gyfer pob taith. Os ydych chi’n dewis gadael y grŵp ar unrhyw adeg, nid yw’ch arweinydd bellach yn gyfrifol amdanoch chi.

Os bydd tywydd garw neu rwystr anrhagweledig, gall yr arweinydd newid y llwybr neu leihau hyd y daith er lles iechyd a diogelwch y grŵp.

Mae croeso i gerddwyr ifanc, ond os ydynt yn 16 oed neu’n iau, rhaid iddynt fod yng nghwmni oedolyn.

Gofynnwn i gerddwyr beidio ag ysmygu yn ystod amser y daith.


Our sponsors include:

sponsors